Treftadaeth Brymbo

Mae un o’n gwirfoddolwyr, Andrew Edwards, yn llunio llyfr darluniadol am hanes criced a phêl-droed Brymbo. Bydd yn 48 tudalen o hyd a bydd yn costio £6.99.

Nodyn gan yr awdur

O ailenwi Sefydliad ac Ystafell Ddarllen Brymbo i fod yn Sefydliad y Gweithwyr yn 1887, mae clybiau pêl-droed a chriced pentref Brymbo wedi dangos balchder yn eu perfformiad wrth gystadlu ar lefel Genedlaethol Cymru. Yr uchafbwyntiau yw’r clwb pêl-droed yn ennill Cwpan Amatur Cymru 1967 a Thlws Cymdeithas Bêl-droed Cymru 2007 tra hefyd yn chwarae Caer a Wrecsam yn rownd wyth olaf Cwpan Cymru yn 1968 a 1987. Yn y cyfamser, enillodd y clwb Criced bedair tlws lefel genedlaethol rhwng 1987 a 2002 yn ogystal â bod yn brif rym yng Nghriced Gogledd Cymru yn y 1980au a’r 1990au.

Mae’r llyfr hwn yn hanfodol i unrhyw un sy’n falch o dreftadaeth a llwyddiannau eu pentref dros gyfnod o bron i 130 o flynyddoedd. Mae’n cael ei ryddhau i gyd-fynd â 25 mlynedd ers cau gwaith Dur Brymbo ar Fedi’r 27ain 2015, a chwaraeodd ran fawr yn hanes clybiau chwaraeon y pentref, gan gynnwys y pêl-droed a’r criced, hyd at ei chau.

This collection entry was last updated on 05/07/2022. Information incorrect or out-of-date?