Casgliad Pêl-droed Cymru: Amgueddfa ac Archifau Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Sefydlwyd Casgliad Pêl-droed Cymru yn Wrecsam, man geni Pêl-droed Cymru, yn dilyn dyfarnu grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri yn 2000 i Amgueddfa ac Archif Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Mae’r casgliad yn canolbwyntio ar hanes pêl-droed yng Nghymru, gan gynnwys gwrthrychau a deunydd archifol sy’n ymwneud â thîm cenedlaethol Cymru, timau Cymru a chwaraewyr pêl-droed Cymru. Mae’r casgliad yn hygyrch i’r cyhoedd drwy arddangosfeydd dros dro a gynhelir yn Amgueddfa Wrecsam, benthyciadau i amgueddfeydd eraill, a thrwy drefnu ymweliad â’n canolfan casgliadau amgueddfeydd.
Byddwch yn ymwybodol nad yw’r casgliad yn cael ei arddangos yn barhaol.