Casgliad y Werin Cymru

Mae gwefan Casgliad y Werin Cymru wedi’i ymroi i stori Cymru a’i phobl. Mae’n brofiad ar-lein deinamig a dwyieithog sy’n llawn ffotograffau diddorol, recordiadau sain, dogfennau, fideos a straeon am hanes a threftadaeth Cymru a’i phobl. Lle i ddarganfod, dysgu, cyfrannu, a rhannu eich stori am Gymru gyda’r byd. Mae Casgliad y Werin Cymru yn ddull arloesol o gasglu, dehongli a thrafod treftadaeth ddiwylliannol Cymru mewn amgylchedd ar-lein – ac mae’n rhad ac am ddim i’w ddefnyddio! Dan arweiniad partneriaeth gyflenwi ffederal sy’n cynnwys y tri chorff treftadaeth cenedlaethol: Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru, ariennir y wefan gan Lywodraeth Cymru.

Ein casgliadau ar-lein

Mae’r wefan yn cynnwys nifer o ddelweddau chwaraeon, fideos a recordiadau sain gan fudiadau ledled Cymru, sy’n adrodd stori hanes chwaraeon yn y wlad, gan gynnwys archifau arddangosfa deithiol Dilyn y Flam a gynhaliwyd yn ystod Gemau Olympaidd Llundain 2012. Darganfyddwch fwy am archifau Dilyn y Flam.

 

Following the Flame Image
People's Collection Wales
This collection entry was last updated on 05/07/2022. Information incorrect or out-of-date?