Clwb Criced Sir Forgannwg

Mae CCS Morgannwg yn cynnal “Amgueddfa Criced Cymru”, sef yr unig Amgueddfa sy’n benodol i chwaraeon yng Nghymru ac mae’n dathlu treftadaeth hir a balch criced yn y wlad. Wedi’i agor yn llawn yn 2013, mae’r Amgueddfa yn olrhain sut mae’r gêm wedi esblygu yng Nghymru ers y 1770au, gan ddefnyddio technoleg fodern gan gynnwys sgriniau plasma, ffilmiau, a gêm fatio ryngweithiol o’r enw Batio i helpu ymwelwyr o bob oed i ddeall mwy am, yn ogystal â mwynhau, stori gêm yr haf yng Nghymru.

Daw’r arddangosfeydd yn yr Amgueddfa o gasgliad craidd CCS Morgannwg, yn ogystal ag eitemau eraill a fenthycwyd gan gyn-chwaraewyr, clybiau criced Cymru ac unigolion eraill. Dyfarnwyd Gwobr Arloesedd Kieran Hegarty i’r Amgueddfa yn yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd ym mis Ebrill 2014.

This collection entry was last updated on 05/07/2022. Information incorrect or out-of-date?