Press Release: Consultation opens to support the sporting heritage of Wales

An Image of Kirsty WadeA strategic framework to ensure the ongoing support, protection, and engagement of the sporting heritage of Wales has opened for consultation.

The Framework has been funded by the Welsh Government and was developed by a Specialist Panel for the Sporting Heritage of Wales. The panel launched in April 2020 and includes a range of sporting heritage specialists. The panel conducted targeted audience research and engagement activities across the sport, education, and cultural sector to help inform the contents and direction of the Framework.

Dr. Justine Reilly, founding director of Sporting Heritage CIC said:

“Wales has such a rich and varied sporting heritage it’s so important we have a long-term approach to the sporting heritage of Wales which enables a resilient and sustainable programme of support protecting and sharing collections for future generations. Whether you are involved in grassroots sports, elite games, community groups, education, cultural, or the heritage sector– we need your input and feedback on the Framework to make sure we get this right as it’s such an exciting opportunity to develop sporting heritage in Wales.”

Deputy Minister for Arts and Sport, Dawn Bowden, said:

“The underpinning aims, and objectives of the Framework will ensure a strategic approach to sporting heritage activity and development in Wales to enable thriving cultural activity and support cohesive communities.

“In the Framework, we’ve identified there are opportunities to uncover, share and celebrate previously hidden and ignored histories that are vital to the story of Welsh heritage, alongside sports heritage supporting wider aims around sports participation, education, and well-being.”

On the 20th July, the inaugural Sporting Heritage Wales Network will begin via zoom. The network will help support the delivery of the Framework, and draw in feedback on the Framework’s aims, objectives, and aspirations. Registration to attend the next meeting in September can be booked online https://www.sportingheritage.org.uk/content/nations/sporting-heritage-wales/sporting-heritage-wales-network

Consultation on the Framework is open until 1st October 2021 with details available at https://www.sportingheritage.org.uk/content/nations/sporting-heritage-wales/a-national-framework-for-sporting-heritage-of-wales

 

ENDS

 Photo detail:

Photo 1 Rugby match between Llanelli and South Africa 1951 – Casglu’r Tlysau (1)

Photo 2 Aberayron County School hockey team, 1904 – Casglu’r Tlysau (1)

Photo 3 Dr Justine Reilly, Founding Director Sporting Heritage CIC

Contact:

For media enquiries please contact

Victoria Clapham E: Vicky@bevic.co.uk T: 07748102695

Notes to editor:

Further information on Sporting Heritage

Sporting Heritage CIC is a not-for-profit community interest company working specifically to support the collection, preservation, access and research of sporting heritage in the UK.

 

 

DATGANIAD I’R WASG
TERFYNOL
20fed Gorffennaf 2021

YMGYNGHORIAD YN AGOR I GEFNOGI TREFTADAETH CHWARAEON CYMRU

Mae fframwaith strategol i sicrhau cefnogaeth, amddiffyniad ac ymgysylltiad parhaus treftadaeth chwaraeon Cymru wedi’i lansio ac mae ar agor ar gyfer sylwadau.

Ariannwyd y Fframwaith gan Lywodraeth Cymru ac fe’i ddatblygwyd gan Banel Arbenigol ar gyfer Treftadaeth Chwaraeon Cymru. Lansiwyd y panel ym mis Ebrill 2020 ac mae’n cynnwys ystod o arbenigwyr treftadaeth chwaraeon. Cynhaliodd y panel weithgareddau ymchwil ac ymgysylltu cynulleidfa wedi’u targedu ar draws y sectorau chwaraeon, addysg a diwylliant i helpu i lywio cynnwys a chyfeiriad y Fframwaith.

Dywedodd Dr. Justine Reilly, cyfarwyddwraig sefydlol Sporting Heritage CIC:
“Mae gan Gymru dreftadaeth chwaraeon mor gyfoethog ac amrywiol, mae mor bwysig bod gennym agwedd hirdymor tuag at dreftadaeth chwaraeon Cymru sy’n galluogi rhaglen wydn a chynaliadwy i gefnogi amddiffyn a rhannu casgliadau ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. P’un a ydych chi’n ymwneud â chwaraeon ar lawr gwlad, gemau elitaidd, grwpiau cymunedol, addysg, diwylliant neu’r sector treftadaeth – mae angen eich mewnbwn a’ch adborth ar y Fframwaith i sicrhau ein bod yn cael hyn yn iawn gan ei fod yn gyfle mor gyffrous i ddatblygu treftadaeth chwaraeon yng Nghymru.”

Dywedodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden:
“Bydd nodau sylfaenol ac amcanion y Fframwaith yn sicrhau dull strategol o fynd i’r afael â gweithgaredd a datblygiad treftadaeth chwaraeon yng Nghymru, i alluogi gweithgaredd diwylliannol ffyniannus a chefnogi cymunedau cydlynol.

“Yn y Fframwaith, rydyn ni wedi nodi bod cyfleoedd i ddatgelu, rhannu a dathlu hanesion a guddiwyd ac a anwybyddwyd yn flaenorol sy’n hanfodol i stori treftadaeth Cymru, ochr yn ochr â threftadaeth chwaraeon yn cefnogi nodau ehangach o ran cyfranogiad chwaraeon, addysg a lles.”

Ar 20fed Gorffennaf, bydd cyfarfod cyntaf Rhwydwaith Treftadaeth Chwaraeon Cymru yn cychwyn ar Zoom. Bydd y rhwydwaith yn helpu i gefnogi cyflawni’r Fframwaith, ac yn gofyn am adborth ar nodau, amcanion a dyheadau’r Fframwaith. Gellir cofrestru ar-lein i fynychu’r cyfarfod nesaf ym mis Medi yn https://www.sportingheritage.org.uk/content/nations/sporting-heritage-wales/sporting-heritage-wales-network

Mae’r ymgynghoriad ar y Fframwaith ar agor tan 1 Hydref 2021 gyda manylion ar gael yn https://www.sportingheritage.org.uk/content/nations/sporting-heritage-wales/a-national-framework-for-sporting-heritage-of-wales

DIWEDD

Manylion y lluniau:
Llun 1 Gêm rygbi rhwng Llanelli a De Affrica 1951 – Casglu’r Tlysau (1)
Llun 2 Tîm hoci Ysgol Sirol Aberayron, 1904 – Casglu’r Tlysau (1)
Llun 3 Dr Justine Reilly, Cyfarwyddwraig Sefydlol Sporting Heritage CIC
Cyswllt:
Ar gyfer ymholiadau o’r wasg
Victoria Clapham E: Vicky@bevic.co.uk Ff: 07748102695
Nodiadau i’r golygydd:
Gwybodaeth bellach am Sporting Heritage
Mae Sporting Heritage CIC yn gwmni budd cymunedol dielw sy’n gweithio’n benodol i gefnogi casglu, cadw, mynediad ac ymchwilio i dreftadaeth chwaraeon yn y DU.

 

No Comments

Start the ball rolling by posting a comment on this page!

Add a comment about this page

Your email address will not be published.