Tafarndai a Threftadaeth Chwaraeon

Dros y blynyddoedd bu Cymru’n cael amryw o dafarndai sydd wedi mynegi ar eu harwyddion eu cysylltiad â chwaraeon a hamdden.

Yn y blog yma, mae ein Cydlynydd Cymru Russell Todd a Dylan Jones, ei bartner yn y fenter Llwybrau Cwrw y Cymoedd, yn mynd â ni ar wibdaith fer o amryw o dafarndai o’r fath.


Yr Heliwr, Nefyn, Gwynedd

Yr Heliwr

Mae’r dafarn hanesyddol yma yn dyddio nol i’r 19eg ganrif a elwid yn ‘Sportsman’ ar y pryd. Caewyd y dafarn yn 2009 ond yn ddiweddarach yn 2021 ail agorwyd fel tafarn gymunedol gan gofleidio fersiwn Cymraeg ei hen enw yn y cadarnle Cymraeg hwn ym Mhen Llŷn.

Mae’r dafarn gan ei hen arwydd – sydd gan delwedd o heliwr traddodiadol â’i reiffl – ac mae’n cael ei arddangos tu fewn y dafarn. Y dyddiau hyn mae’r arwydd yn cynnwys pysgotwyr, diwydiant hirsefydlog yr ardal.


Y Piccadilly, Caerwys, Sir y Fflint

Credir bod yr adeilad yn dyddio nol i 1662 ac wedi ei enwi ar ol un o geffylau yr Arglwydd Mostyn a enillodd ras fawr yn Nhreffynnon. Mor lawn llawenydd fu’r Arglwydd y rhoddodd e dafarn i’r joci buddugol…a’i henwodd ar ôl y ceffyl: Piccadilly.

Yn y gorffennol, llun wedi’i baentio traddodiadol o’r ceffyl o dan ei joci fu’r arwydd. Ers hynny, mae’r arwydd wedi’i ail-ddarlunio’n yn fwy modern.


Horse and Jockey, Wrecsam

White Pub sign above black door showing illustrated horse and jockey, with scrolled title

Tafarn to gwellt sy’n dyddio nol i’r 16ed ganrif, un o adeiladau hynaf yng nghanol dinas Wrecsam.

Wedi cael ei enwi ar ol y joci enwog Fred Archer (1857-1886) a enillodd dros 2,700 o rasus ceffylau, yn gynnwys ym Mangor-is-y-coed.


The Turf, Wrecsam

The Turf. © Jaggery

Tafarn sydd wedi bod yn gwasanaethu cefnogwyr Wrecsam ers dros 150 o flynyddoedd. Yn wreiddiol roedd rhan o’r adeilad yn dyddio yn ôl i amser rasio ceffylau yn yr ardal, gan hynny enw y maes pêl-droed yw’r Cae Ras.

Er gwaethaf cysylltiad y dafarn â phêl-droed y dyddiau hyn – yn enwedig ers cyrhaeddodd llwch seren Hollywood yn y ddinas – mae arwydd y dafarn yn adalw ei gorffennol ceffylaidd gyda ddelwedd o droed ceffyl wrth rasio.


Saith Seren, Wrecsam

Tafarn Gymraeg yng nghanol Wrecsam sy’ wedi ei adeiladu o bric coch enwog Rhiwabon.

Yng nghynt enid yn Saesneg fel y Seven Stars, ail-agorwyd yn 2012 fel dafarn gymunedol. Ar ôl llwyddiant tîm dynion Cymru yn Ewro 2016, ar gyfer ei harwydd mabwysiadodd y dafarn lun gan aelod y garfan Owain Fôn Williams, arwydd cyntaf y dafarn ers bron 20 mlynedd.


Garth Inn, Garth ger Llanfair-ym-Muallt

Tŷ preifat nawr ond ar un adeg roedd yn dafarn boblogaidd gyda’r rhai oedd yn hela dyfrgwn.

Hyd heddiw gallwn weld arwydd ‘Hark to Statesman’ ar ochr yr adeilad yn cofnodi camp un ci o ladd dwrgi anferth yn y ddeunawfed ganrif.


Matchstick Man, Merthyr Tudful

Cyn-dafarn ar yr ystâd Gurnos a gofnodai un o focsiwyr enwog yr ardal megis Johnny Owen. Yn anffodus, does gynnon ni ddim llun o arwydd y dafarn. Bydden ni wrth ein boddau i weld un!


Manmoel Inn, Man-moel ger Coed Duon

Robin Drayton / CC BY-SA 2.0

Yn anffodus dyma dafarn arall sydd wedi’i throi i gartref. Tafarn gwledig tradoddiadol oedd y Manmoel yn yr ucheldiroedd rhwng y cymoedd Sirhywi ac Ebwy yng Ngwent.

Gryn amser ar ôl cau gellid gweld ei harwydd gyda logo bragdy Rhymni enwog o joci ar gefn barilen. Unwaith roedd hwn yn gyffredin ledled y De achos bod y dafarn gan gymaint o dafarndai. Y dyddiau hyn nid yw e ddim yn perchen cymaint o dafrndai ond mae’n dal yn bragu yn yr ardal gyda’i bencadlys ym Mlaenafan.


The Malcolm Uphill, Caerffili

Enwi ei dafarndai ar ôl tirnodau, adeiladau a phersonoliaethau lleol yw traddoddiad Wetherspoons. Mae ei dafarn yng nghanol Caerffili wedi’i enwi ar ôl un o feibion chwaraeon enwog y dref: beicau modurwr Malcolm Uphill. Y person cyntaf oedd Uphill i gwblhau lap y ras TT Ynys Manaw mewn cyflymder cyfartaledd yn fwy na 100mya.

Felly mae’n addas bod gan arwydd y dafarn lun o Uphill yng nghanol y TT a’i liwiau rasio arferol o las ac hufenlliw.


The Racehorse Inn, ger Blaenafan

Credir nawr y dafarn yma yw’r un uchaf yng Nghymru!

Ac un arall gyda chysylltiad â rasio ceffylau.

Related links

No Comments

Start the ball rolling by posting a comment on this page!

Add a comment about this page

Your email address will not be published.