Dathlu Treftadaeth Chwaraeon Cymru
Mae chwaraeon wedi bod yn bwysig i Gymru fel cenedl erioed: o gemau hynafol cnapan a law, i rygbi a phêl-droed modern; o snwcer a bocsio i chwaraeon modur, beicio, athletau a nofio. Mae ein gwlad wedi magu amrywiaeth drawiadol o fabolgampwyr eithriadol ac rydym wneud llawer gwell na’r disgwyl yn ôl ein maint mewn cystadlaethau rhyngwladol yn gyffredinol; mae ein hunaniaeth fel cenedl wedi'i rhwymo mewn ysbryd o benderfyniad i lwyddo gwaeth beth fo maint yr her neu gryfder y gwrthwynebwyr.
Mae’r arddangosfa hon yn cael ei lansio er mwyn nodi cwblhau fframwaith strategol ar gyfer treftadaeth chwaraeon Cymru a fydd yn galluogi adrodd straeon cyfoethog ac amrywiol y gwroldeb hwn.
