Roedden ni’n gyffrous i fod yn ôl yng Nghaerdydd ddydd Mercher 16 Gorffennaf i gynnal y nesaf yn ein cyfres o ddiwrnodau astudio wyneb yn wyneb. Canolbwyntiodd y diwrnod ar brosiect peilot Arwyddocâd Casgliadau Cymru ac fe’n cynhaliwyd gan un o’r amgueddfeydd peilot: Amgueddfa Criced Cymru.
Daeth y diwrnod rhwydweithio wyneb yn wyneb hwn ag astudiaethau achos a thrafodaethau o bob rhan o’r sector treftadaeth chwaraeon ynghyd yn ogystal â rhoi cipolwg ar ymarferoldeb ymgymryd â gwaith arwyddocâd a’r effaith y mae wedi’i chael ar y casgliadau a’r staff.
Daliwch fyny gyda’r holl gyflwyniadau drwy glicio ar y dolenni cyfranwyr isod:
- Siaradwr gwadd: Victoria Rogers, Pennaeth Amgueddfeydd a Chasgliadau, Llywodraeth Cymru
- Cyflwyno Fframwaith Arwyddocâd Casgliadau Treftadaeth Chwaraeon gyda: Dr Justine Reilly. I archwilio’r broses Arwyddocâd Casgliadau ac i ddefnyddio’r templedi a ddatblygwyd fel rhan o’r prosiect hwn, ewch i’r Pecyn Cymorth Sporting Heritage.
Cyflwynwyr astudiaethau achos:
- Emma Williams, Amgueddfa Abertawe
- Dr Andrew Hignell, Amgueddfa Criced Cymru
- Sarah Parsons a Jane Daniels, Amgueddfa Torfaen
Prosiect Grant Cymunedol Sporting Heritage:
Gwyliwch y ffilm isod i gael gwybod mwy am yr arddangosfa Chwalu Ffiniau yn Amgueddfa Sir Gaerfyrddin. I gael gwybod mwy am y prosiect cysylltwch ag Eloise Chapman.
Cynllun dynodiad newydd i Gymru
Cyhoeddodd Ruth McKew fod Headland Design wedi cael ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru i ymchwilio i sut olwg fyddai ar Gynllun Dynodiad / Cydnabyddiaeth i Gymru. Ar hyn o bryd maent yn derbyn Mynegiannau o Ddiddordeb (EOI) gan amgueddfeydd Achrededig Cymru sydd â diddordeb mewn cymryd rhan. I gyflwyno EOI cysylltwch â: [email protected]. Am fwy o fanylion am waith Headland Design gweler: http://www.headlanddesign.co.uk/
Hoffem ddiolch i Dr Andrew Hignell a’i dîm yn yr amgueddfa am ein croesawu a rhoi taith o amgylch Gerddi Sophia i ni.
Hoffem ddiolch i Lywodraeth Cymru am ariannu Prosiect Peilot Arwyddocâd Casgliadau Cymru a hefyd i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol am wneud y digwyddiad hwn yn bosibl.