Cyfres Gweminarau Am Ddim Arwyddocâd Casgliadau Cymru

Ydych chi erioed wedi meddwl sut i ddechrau asesu arwyddocâd eich casgliad?

Gan adeiladu ar waith y prosiect peilot Arwyddocâd Casgliadau, rydym yn falch o gyhoeddi cyfres o bum gweminar byr am ddim a fydd yn rhoi’r sgiliau a’r ddealltwriaeth i chi gynnal eich asesiad arwyddocâd eich hun. Bydd pob sesiwn yn adeiladu eich gwybodaeth ond gellir eu gweld hefyd fel sesiynau annibynnol. Bydd pob sesiwn yn cael ei recordio a byddant ar gael i’w gwylio’n ôl trwy sianel YouTube Sporting Heritage. Dyma’r sesiynau:

Sesiwn 1 – Dydd Mercher 28ain Ionawr, 10.30am – 11.30am
Sut i gynnal adolygiad o gasgliadau
Sesiwn 2: Dydd Mercher 11 Chwefror, 10.30am – 11.30am
Sut i gynnal archwiliad arwyddocâd
Sesiwn 3: Dydd Mercher 25 Chwefror, 10.30am – 11.30am
Sut i adeiladu rhwydweithiau cyfoedion eich amgueddfa
Sesiwn 4: Dydd Mercher 11 Mawrth, 10.30am – 11.30am
Creu ymweliad rhithwir â’ch casgliad chwaraeon
Sesiwn 5: Dydd Mercher 25 Mawrth, 10.30am – 11.30am
Sut i gynnal adolygiad cyfoedion

Hoffem ddiolch i Lywodraeth Cymru am ein cefnogi i gyflwyno’r rhaglen hon.