Podlediad: Siarad Chwaraeon a Chelf gyda Liam Stokes-Massy dan yr enw Pencil Craftsman
Wrth i ni ddathlu Celf Treftadaeth Chwaraeon yn ystod mis Chwefror 2022, mae’r artist Liam Stokes-Massey o Wrecsam yn ymuno â ni.
Yn y bennod hon, a recordiwyd yn wreiddiol yn 2019 ar gyfer Podlediad Pêl-droed, mae ein podlediadwr preswyl, Russell Todd yn galw i mewn i Gwt y Bugail yn Nhŷ Pawb yn Wrecsam, lle mae Liam Stokes-Massey yn treulio’i amser yn arlunio celf pensil anhygoel, gan gynnwys pêl-droedwyr o Gymru.
Maen nhw’n trafod sut y dechreuodd llun cyflym o Gareth Bale ar fore gêm Slofacia yn Euro 2016 y diddordeb yn ei waith celf, ac archwilio ysbrydoliaeth ehangach Liam, cynlluniau ac arddangosfeydd yn y dyfodol.
Gallwch weld mwy o waith celf Liam yma:
- Twitter @PencilCraftsman
- Instagram @pencilcraftsman
- Etsy https://www.etsy.com/uk/shop/pencilcraftsman
No Comments
Add a comment about this page