Mae ein Rhwydwaith Sporting Heritage Cymru bellach ar y gweill!
Os ydych chi’n gweithio neu’n gwirfoddoli ym maes treftadaeth chwaraeon; os oes gennych gasgliad, straeon i’w hadrodd neu bethau cofiadwy; os ydych yn rheoli casgliad chwaraeon; neu os ydych chi eisiau gweld sut y gall casgliadau chwaraeon gefnogi eich gwaith – mae’r rhwydwaith ar eich cyfer chi!
Nod y rhwydwaith yw:
- Rhannu gwybodaeth, syniadau a gwybodaeth sy’n gysylltiedig â gweithgarwch treftadaeth chwaraeon
- Cwrdd ag unigolion a mudiadau eraill sy’n gweithio gyda chasgliadau treftadaeth chwaraeon, neu sydd â diddordeb ynddynt
- Trafod cyflwyno Fframwaith Cenedlaethol Treftadaeth Chwaraeon Cymru
- Datblygu cysylltiadau i’ch cefnogi yn eich gweithgaredd er enghraifft dod o hyd i gyllid
Bydd manylion y cyfarfod nesaf yn ymddangos yma. Os oes gennych chi syniadau ar gyfer pynciau cyfarfod yn y dyfodol cysylltwch â Fran ar fran@sportingheritage.org.uk
Mae’n rhad ac am ddim i fynychu ein cyfarfodydd rhwydwaith ond byddwn nawr yn gofyn i fynychwyr archebu drwy eventbrite.
No Comments
Add a comment about this page